Ap Geiriaduron 4+‎

Prifysgol Bangor University

مصمم لـ iPad

    • مجانًا

لقطات الشاشة

الوصف

Scroll for English after the Welsh

Yr Ap Geiriaduron

Mae’r Ap Geiriaduron yn caniatáu ichi chwilio geiriadur cyffredinol Cymraeg-Saesneg Cysgair,
yn ogystal â nifer o eiriaduron terminoleg safonol. Mae'r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys Y Termiadur Addysg, sy'n cynnwys terminoleg safonol ar gyfer addysg oed ysgol, yn ogystal â Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg, sy'n canolbwyntio ar derminoleg ar gyfer pynciau Addysg Uwch. Gellir hefyd chwilio geiriaduron ychwanegol o borth terminoleg y Porth Termau o'r tu mewn i'r ap pan fyddwch ar-lein.
Mae nodweddion yr ap yn cynnwys:

chwilio am brifeiriau Saesneg neu Gymraeg yn hwylus
dangos pob cofnod ar gyfer prifair Cymraeg neu Saesneg penodol
y gallu i ddod o hyd i gofnodion cysylltiedig
modd cael rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg neu Saesneg, gyda'r gallu i newid yr iaith yn y Gosodiadau.

Datblygwyd yr Ap Geiriaduron gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor. Ariennir datblygiad Y Termiadur Addysg gan Lywodraeth Cymru. Caiff Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


Priodoliad y Geiriaduron


Y Termiadur Addysg

Golygydd: Gruffudd Prys
Golygydd Emeritws: Delyth Prys
Terminolegydd: Catrin Heledd Owen
Terminolegydd Cynorthwyol: Tomos Rhys Williams

Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Golygydd: Tegau Andrews
Terminolegydd: Shân Pritchard
Terminolegydd Cynorthwyol: Alun Prytherch


Priodoliad y feddalwedd

Prif Ddatblygwr: Dewi Bryn Jones
Datblygwyr Cynorthwyol: Stefano Ghazzali, Tomos Rhys Williams, Gruffudd Prys.


Hawlfraint

Meddalwedd yr Ap Geiriaduron

Hawlfraint (c) 2023 Prifysgol Bangor

Ap Geiriaduron

The Ap Geiriaduron allows you to search the Cysgair general Welsh-English dictionary,
as well as a number of standardized terminology dictionaries. These currently include Y Termiadur Addysg, which contains standardized terminology for school-age education, and Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg, which focuses on terminology for Higher Education subjects. Additional dictionaries from the Porth Termau terminology portal can also be searched from within the app when online.
Features include:

easily search English or Welsh headwords
show all entries for a given English or Welsh headword
drill down feature to find related entries
Welsh and English user interface languages, with the ability to change language in Settings.

Ap Geiriaduron was developed by Bangor University's Language Technologies Unit, and the
development of Y Termiadur Addysg is funded by the Welsh Government, whilst Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg is funded by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


Dictionary credits


Y Termiadur Addysg

Editor: Gruffudd Prys
Editor Emeritus: Delyth Prys
Terminologist: Catrin Heledd Owen
Assistant Terminologist: Tomos Rhys Williams

Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Editor: Tegau Andrews
Terminologist: Shân Pritchard
Assistant Terminologist: Alun Prytherch


Software credits

Chief Developer: Dewi Bryn Jones
Assistant Developers: Stefano Ghazzali, Tomos Rhys Williams, Gruffudd Prys.


Copyright

Ap Geiriaduron Software

Copyright (c) 2023 Prifysgol Bangor University

ما الجديد

الإصدار 1.68.0

Fixes Startup Problems

خصوصية التطبيق

أوضح المطور Prifysgol Bangor University، أن ممارسات خصوصية التطبيق قد تتضمن معالجة البيانات على النحو الموضح أدناه. لمزيد من المعلومات، انظر %سياسة خصوصية المطور(ة) سياسة خصوصية المطور.

البيانات غير المرتبطة بك

قد يتم جمع البيانات التالية على الرغم من عدم ربطها بهويتك:

  • بيانات أخرى

قد تختلف ممارسات الخصوصية بناءً على الميزات التي تستخدمها أو حسب عمرك على سبيل المثال. معرفة المزيد

المزيد من هذا المطور

Bangor University Campus Life
تعليم
Sea Watcher
تعليم
App Gerlyver
تعليم
Prifysgol Bangor Campws Byw
تعليم
Macsen
أدوات
The Saltmarsh App
تعليم

ربما يعجبك أيضًا

Wales Safeguarding Procedures
مَراجع
Welsh Trainer
تعليم
Ap Adborth Sgiliaith
تعليم
golingo – Speak new languages
تعليم
UWTSD Hwb
تعليم
Antur Cyw
تعليم