Llwybrau'r Wyddfa 4+

Yr Wyddfa walking routes

Snowdonia National Park Authority

    • ₺79,99

iPhone Screenshots

Description

*** SCROLL DOWN FOR ENGLISH ***

Mae’r Wyddfa yn fynydd eiconig sy’n adnabyddus dros y byd i gyd. Mae’n gartref i gymuned fywiog, egnïol, ac i fusnesau a mannau gwaith arloesol yn ogystal â chlytwaith o ffermydd mynydd. Mae'n ased cenedlaethol a hwn yw mynydd mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig o ran ymwelwyr. Mae'n denu pobl o bob cwr o Gymru, y DU, ac o bob rhan o'r byd.

Dyluniwyd yr ap gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a phartneriaid gweithgar sy’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sydd â dyletswydd ymarferol o reoli’r mynydd ar lawr gwlad. Mae’r gwaith yn amrywio o reolaeth cadwraeth a llwybrau i dwristiaeth, ffermio ac achub mynydd.

Mae’r ap yn hawdd i’w ddefnyddio, yn gweithio gyda GPS ac yn cynnwys mapiau manwl sy’n dilyn eich taith wrth i chi gerdded ar unrhyw un o’r 6 prif lwybr i’r copa. Mae hyn yn gweithio all-lein, sy’n golygu nad oes angen cyflenwad i’r we neu signal ffôn tra’n ei ddefnyddio ar y mynydd. Mae pob map yn cynnwys cyfuchliniau fel y gallwch gadw golwg ar ddarnau anodd wrth i chi gerdded.

Fe fydd yr ap yn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw cyn eich ymweliad ac yn cynnwys cyngor pwysig fydd yn eich galluogi i’n cynorthwyo i barchu, gofalu, a gwarchod y mynydd, yr amgylchedd o’i amgylch, a’r cymunedau lleol.

Yn cynnwys data AO © Hawlfraint y goron a hawl basdata 2020.

Datblygwyd yr ap gan Tiny Mobile Limited ar gyfer Partneriaeth Yr Wyddfa. Cysylltwch â paul@tinymobile.co.uk os oes diddordeb gennych mewn datblygu ap cerdded.




Yr Wyddfa (pronounced uhr-with-va) is a globally renowned, iconic mountain and home to vibrant, energetic communities and a mosaic of upland hill farms. It is a national asset, the most visited mountain in the UK, attracting people from across Wales, the UK and around the world.

This app is designed by the Eryri National Park Authority (Snowdonia) together with partners who are responsible for the on-the-ground management of the mountain. The work ranges from conservation and path management to tourism, farming and mountain rescue.

Our simple to use GPS-enabled app covers the 6 main paths to the summit of Yr Wyddfa with detailed route maps that tracks your progress as you ascend. This works offline, meaning no internet or phone signal is required when using the app on the mountain. Each map also includes contour information so you can look out for hazardous sections as you climb.

This app will also help you plan ahead before your visit and includes important advice which will allow you to help us respect, care, and protect this incredible mountain, the surrounding environment and local communities.

Contains OS data © Crown copyright and database right 2023.

This walking app was developed for Partneriaeth Yr Wyddfa by Tinymobile Limited. Email Paul on paul@tinymobile.co.uk if you would like to discuss walking app development.

What’s New

Version 1.7

Performance Enhancements.
Updated information.

App Privacy

The developer, Snowdonia National Park Authority, indicated that the app’s privacy practices may include handling of data as described below. For more information, see the developer’s privacy policy.

Data Not Collected

The developer does not collect any data from this app.

Privacy practices may vary based on, for example, the features you use or your age. Learn More

Supports

  • Family Sharing

    Up to six family members can use this app with Family Sharing enabled.

You Might Also Like

Parcio Eryri Parking Snowdonia
Travel
Portmeirion
Travel
Scafell Pike Offline Map
Travel
Snowdon Mountain Railway
Travel
MalvernsWalks
Travel
Traveline Cymru
Travel